Annwyl Gyfaill
Ymgynghoriad ar y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru)
Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.
Cylch gorchwyl
Wrth graffu ar egwyddorion cyffredinol y Bil yng Nghyfnod 1, defnyddia'r Pwyllgor y cylch gorchwyl a ganlyn:
Ystyried:
- egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodir. Wrth ddod i farn ar y mater hwn, efallai y byddwch am ystyried Rhannau unigol o'r Bil:
- Rhan 2 - Gwahardd taliadau penodol etc
- Rhan 3 – Trin blaendaliadau cadw
- Rhan 4 - Gorfodaeth
- Rhan 5 - Adennill swm gan ddeiliad y contract
- Rhan 6 – Rhoi cyhoeddusrwydd i ffioedd asiantiaid gosod eiddo
- Rhan 7 – Darpariaethau terfynol
- Atodlen 1 - Taliadau a ganiateir
- Atodlen 2 - Ymdrin â blaendal cadw
- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau’r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;
- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);
- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bi; a
- goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad
Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo â’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb.
Dylai ymatebion gyrraedd erbyn dydd Gwener 7 Medi 2018.
Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Canllawiau
Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl.
Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.
Gweler y canllawiau i dystion sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgorau.
Polisi dwyieithrwydd
Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu'r llall o'n hieithoedd swyddogol, Cymraeg a Saesneg, neu'r ddwy. Os na chyflwynir gwybodaeth yn ddwyieithog, ni fydd yn cael ei chyfieithu, a chaiff ei chyhoeddi yn yr iaith y cafodd ei chyflwyno ynddi yn unig. Disgwyliwn i sefydliadau weithredu eu safonau a'u cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.cynulliad.cymru/cy/help/preifatrwydd/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Dylech sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt a ganlyn:
Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA
E-bost: SeneddCymunedau@cynulliad.cymru
Rhif ffôn: 0300 200 6565
Yn gywir,
John Griffiths AC
Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau